Atodiad B - Canllawiau i dystion sy'n cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i bwyllgorau

 

Mae'r Cynulliad wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth hygyrch i'r gynulleidfa ehangaf bosibl. Bwriad y canllaw byr hwn yw cynorthwyo tystion sy'n llunio gwybodaeth ysgrifenedig i bwyllgorau. Bydd hyn yn galluogi'r Cynulliad i ddarparu gwybodaeth a gyflwynwyd gan eraill mewn modd hygyrch.

 

 

Lle bo modd, dylid darparu gwybodaeth gan ddefnyddio Microsoft Word er mwyn sicrhau hygyrchedd. Pan fyddwch chi'n cyflwyno sgan neu pdf, yn enwedig pan fyddant yn llythyrau neu'n dablau o wybodaeth, dylech gyflwyno'r ddogfen Word wreiddiol gyda hi.